​Mae ein iaith yn rhywbeth sydd yn cael ei gysylltu yn ddyfn hefo sut yr ydym yn mynegi ein hunain a phrosesu emosiynau, er mwyn sicrhau ein bod ni yn cael cyfarthrebu yn y ffordd rydym yn gyfforddus. I siaradwyr Cymraeg, mae cael sesiwn cwnsela drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ffordd rydym yn credu ein bod ni’n cael ein deall a chlywed. Gall mynegi emosiynau a phrofiadau mewn ail iaith fod yn anodd, ond wrth siarad yn yr iaith yr ydych fwyaf cyfforddus anog gwell dealltwriaeth, cysur a dilysrwydd mewn therapi.
Drwy gynnig sesiynnau cwnsela yn Gymraeg, fy nod yw darparu lle diogel i gleientiaid fynegi ei hunain, heb yr her o orfod gyfiaethu ei meddyliau. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod y rhai sy’n teimlo fwyaf cyfforddus yn siarad yn y Gymraeg fynediad at gymorth, sy’n parchu ei hiaith a’u hunaniaeth diwylliannol. Petai y byddech yn hoffi cael eich sesiynnau yn gwbwl Gymraeg, neu newid rhwng y Gymraeg a Saesneg, mi fyddai’n fodlon i’ch cefnogi yn y ffordd sy’n teimlo’n iawn i chi.